P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tamsin Davies, wedi iddi gasglu 8,700 o lofnodion ar bapur ac ar wefan deisebau arall.

 

Geiriad y ddeiseb

Fel trigolion lleol, rydym yn credu bod y gwaith arfaethedig i atal llifogydd yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath ym Mhen-y-lan, Caerdydd yn ddinistriol, ac yn ddianghenraid felly.

 

Rydym wedi gweld y llanast yng Ngerddi Waterloo ac yn gwrthwynebu Cyfnod 3 o Gynllun Llifogydd y Rhath gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn ehangu'r nant ym Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath gan arwain at gwymp dros 30 o goed mewn ardal lle na chafwyd unrhyw lifogydd yn y gorffennol.

 

Rydym am achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath er mwyn gwarchod cymeriad yr ardal, lleihau'r difrod ecolegol a gwarchod cynefinoedd ein bywyd gwyllt lleol.

 

Credwn nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried yn briodol yr holl opsiynau sydd ar gael, a'u bod wedi camarwain y cyhoedd â ffigyrau anghywir yn ystod eu cyfnod ymgynghori, a chredwn ei bod, mewn gwirionedd, yn ddianghenraid i chwalu gerddi'r parc er mwyn ehangu sianel y nant gan waredu hen goed yn y broses.

 

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i'r gwaith yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath ac ystyried yr opsiynau ymarferol eraill sydd ar gael i liniaru'r perygl canfyddedig o lifogydd yn yr ardal hon.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad